Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

16 Mai 2022

SL(6)198 Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig (“GMOs”) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid wedi'i gynnwys yng nghyfraith yr UE a ddargedwir (Rheoliad (CE) Rhif 1829/2003 ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig). Mae awdurdodiadau yn ddilys am ddeng mlynedd. Ar ôl y cyfnod hwn, gall deiliaid awdurdodiad wneud cais i adnewyddu'r awdurdodiad ar gyfer marchnata parhaus.

Mae’r Rheoliadau hyn yn awdurdodi rhoi naw o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid ar y farchnad sy’n cynnwys GMOs neu sydd wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio GMOs.

Rhiant-Ddeddf: Erthyglau 7(3), 9(2), 11, 19(3), 21(2), 23 a 35 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig

Fe’u gwnaed ar: 25 Ebrill 2022

Fe’u gosodwyd ar: 27 Ebrill 2022

Yn dod i rym ar: 20 Mai 2022